1

The Labour-Plaid deal is the faintest outline of a Wales beyond neoliberalism

“On the surface, the deal announced this week between the two parties represents a real break with the status quo” writes Sam Coates in an article on the website blog of Undod, the non-party Welsh socialist organisation supporting independence.

“Bringing in rent controls, caps on second homes and new state-owned companies would mean a dramatic break with the idea that the ‘market knows best’, and that direct government action to protect people and communities is needed.

While Welsh Labour has traded on the mirage of ‘clear red water’, the reality has been a government that talks radical and acts slowly. The recently published The Welsh Way (with numerous contributions from Undod members) has finally laid bare the myth of Wales being more progressive than the rest of the UK.

Free lunches for all primary school children is a deserved victory for the alliance of civil society campaigners that have worked so hard. But any socialist government should never have let food poverty grow on its watch in the first place. It will cost something to implement, but fundamentally it doesn’t challenge any powerful interests in Welsh society.

That’s why the plans on second and holiday homes seem most significant. This is where the agreement does the most to challenge the rule of the market, but in most other areas the commitments are vague and could easily be left to gather dust in Cardiff Bay – like so many past promises.

Plans to cap the number of second homes, and using the planning system to stop the spread is the first real commitment to say that people and communities matter more than private profit. That makes it an even greater victory for Cymdeithas yr Iaith and other friends, and communities that have tirelessly fought for their very existence.

On a smaller scale, the very mention of rent controls, while currently weak, is a testament to groups like ACORN that have sprung up during the pandemic to organise working people. Plans for a community food strategy are encouraging and will hopefully lead to public procurement of locally produced food. Every school and hospital in Wales should be serving local produce.

As family farms are bought up for corporate carbon offsetting, the absence of land reform is disappointing. As Robat Idris outlines for Undod, this is essential to ensure Wales meets its climate change obligations whilst strengthening rural communities.

For everyone who wants a Wales that puts people before profit, this deal is the very start of that struggle, not the end. It represents the faintest outline of a Wales beyond neoliberalism that we must fight together to bring into full view. While only independence can create a Wales where our people not only survive, but thrive, this is a step to make full use of the powers our government already has.

Contrast this Labour-Plaid agreement, with the neoliberal announcement made by Keir Starmer this week. It’s clear that there is desire in Wales for something better, and that the union won’t offer that.

Powerful interests like the landlord lobby will do everything they can to stop this shift in our political direction, so it’s up to us to pile the pressure on politicians. We must say ‘go further’ ‘do it now, not after yet another investigation’ and not give them the benefit of the doubt that has allowed so much inaction from Cardiff Bay over the past two decades.

We will work with whoever wants to take advantage of this new opening. And we’ll demand the radical action needed to realise the vision of this deal – join Undod today to be part of it.”

Republished from Undod – https://undod.cymru/en/2021/11/23/y-fargen-rhwng-llafur-a-plaid-ywr-amlinelliad-gwelwaf-o-gymru-y-tu-hwnt-i-neoryddfrydiaeth/

 

In Welsh.  Original:  https://undod.cymru/cy/2021/11/23/y-fargen-rhwng-llafur-a-plaid-ywr-amlinelliad-gwelwaf-o-gymru-y-tu-hwnt-i-neoryddfrydiaeth/#respond

Ar yr wyneb, mae’r fargen a gyhoeddwyd yr wythnos hon rhwng y ddwy blaid yn cynrychioli toriad go iawn gyda pethau fel y mae nhw. Byddai dod â rheolaethau rhent, capiau ar ail gartrefi a sefydlu cwmnïau newydd sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn golygu toriad dramatig gyda’r syniad mai’r ‘farchnad sy’n gwybod orau’, a bod angen gweithredu uniongyrchol gan y llywodraeth i amddiffyn pobl a chymunedau.

Tra bod Llafur Cymru wedi manteisio ar y rhith o ‘ddŵr coch clir’, y realiti fu llywodraeth sy’n siarad yn radical ond yn gweithredu’n araf. Mae The Welsh Way a gyhoeddwyd yn ddiweddar (gyda nifer o gyfraniadau gan aelodau Undod) wedi dangos yn derfynol mai myth yw fod Cymru yn fwy blaengar na gweddill y Deyrnas Gyfunol.

Mae cinio am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn fuddugoliaeth haeddiannol i gynghrair o ymgyrchwyr cymdeithas sifil sydd wedi gweithio mor galed. Ond ni ddylai unrhyw lywodraeth sosialaidd erioed fod wedi gadael i dlodi bwyd gynyddu dan ei goruchwyliaeth yn y lle cyntaf. Bydd yn costio i’w weithredu, ond yn y bôn nid yw’n herio unrhyw fuddiannau pwerus yng nghymdeithas Cymru.

Dyna pam mae’r cynlluniau ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwyliau yn ymddangos yn hynod o arwyddocaol. Dyma lle mae’r cytundeb yn gwneud y mwyaf i herio rheol y farchnad, ond yn y rhan fwyaf o feysydd eraill mae’r ymrwymiadau’n amwys a byddai’n hawdd eu gadael i gasglu llwch ym Mae Caerdydd – fel cymaint o addewidion yn y gorffennol.

Cynlluniau i roi cap ar nifer yr ail gartrefi, a defnyddio’r system gynllunio i atal eu lledaeniad yw’r gwir ymrwymiad cyntaf i ddatgan bod pobl a chymunedau o bwys mwy nag elw preifat. Mae hynny’n ei gwneud yn fuddugoliaeth hyd yn oed yn fwy i Gymdeithas yr Iaith a chyfeillion eraill, a chymunedau sydd wedi ymladd yn ddiflino am eu bodolaeth.

Ar raddfa lai, mae hyd yn oed sôn am reolaethau rhent, er eu bod yn wan ar hyn o bryd, yn dyst i grwpiau fel ACORN sydd wedi codi yn ystod y pandemig i drefnu gweithiwyr. Mae cynlluniau ar gyfer strategaeth bwyd cymunedol yn galonogol a gobeithio y byddant yn arwain at gaffael cyhoeddus o fwyd a gynhyrchir yn lleol. Dylai pob ysgol ac ysbyty yng Nghymru fod yn gweini cynnyrch lleol.

Wrth i ffermydd teuluol gael eu prynu ar gyfer gwrthbwyso carbon corfforaethol, mae’r diffyg sôn am ddiwygio tir yn siomedig. Fel y mae Robat Idris wedi amlinellu mewn erthygl ar gyfer Undod, mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau newid yn yr hinsawdd tra’n cryfhau cymunedau gwledig.

I bawb sydd eisiau Cymru sy’n rhoi pobl o flaen elw, dim ond dechrau’r frwydr yw’r fargen hon, nid y diwedd. Mae’n cynrychioli’r amlinelliad gwelwaf o Gymru y tu hwnt i neoryddfrydiaeth y mae’n rhaid i ni ei ymladd gyda’n gilydd er mwyn ei sylweddoli yn llawn. Er mai dim ond annibyniaeth all greu Cymru lle mae ein pobl nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu, mae hwn yn gam i wneud defnydd llawn o’r pwerau sydd gan ein llywodraeth eisoes.

Cyferbynnwch y cytundeb Llafur-Plaid hwn, gyda’r cyhoeddiad neoryddfrydol a wnaed gan Keir Starmer yr wythnos hon. Mae’n amlwg bod awydd yng Nghymru am rywbeth gwell, ac nad yw’r undeb yn cynnig hynny.

Bydd buddiannau pwerus fel undeb y landlordiaid yn gwneud popeth o fewn eu gallu i atal y newid hwn i’n cyfeiriad gwleidyddol, felly mae pentyrru’r pwysau ar wleidyddion i fyny i ni. Rhaid inni ddweud ‘ewch ymhellach’ ‘gwnewch hynny nawr, nid ar ôl ymchwiliad arall eto’ a pheidio â rhoi budd yr amheuaeth iddynt sydd wedi caniatáu cymaint o ddiffyg gweithredu o Fae Caerdydd dros y ddau ddegawd diwethaf.

Byddwn yn gweithio gyda phwy bynnag sydd am fanteisio ar yr agoriad newydd hwn. A byddwn yn mynnu y gweithredu radical sydd ei angen i wireddu gweledigaeth y fargen hon – ymunwch ag Undod heddiw i fod yn rhan ohoni.